24.09.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Ci o Lethr yng Nghynghordy

Ddydd Mawrth, Medi 23ain, ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Llanwrtyd i gi a oedd yn sownd ar lethr yng Nghynghordy.

Gan Steffan John



Am 10.07yb ddydd Mawrth, Medi 23ain, galwyd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Llanwrtyd i ddigwyddiad yng Nghynghordy.

Ymatebodd y criw ar ôl i’r Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd dderbyn galwad gydag adroddiad am gi a oedd yn sownd ar lethr yng Nghoedwig Crychan.  Roedd aelodau’r criw yn llwyddiannus yn dod o hyd i’r ci, sef cyfeirgi Seisnig o’r enw Luca, a defnyddiwyd llinell amlbwrpas i’w achub o’r llethr.  Unwaith yn ddiogel, arweiniwyd Luca trwy’r goedwig gan y criw i’w aduno â’i berchennog.

Gadawodd y criw am 1.38yp.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf