Am 9.46yb ddydd Llun, Awst 25ain, galwyd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberhonddu i ddigwyddiad ger Capel Isaf yn Aberhonddu.
Ymatebodd y criw yn dilyn adroddiadau bod dafad wedi bod yn sownd ar ynys yng nghanol pwll ers wythnos. Roedd y pwll wedi'i amgylchynu gan ddŵr a thir corsiog dwfn iawn. Oherwydd y tir corsiog a’r risgiau cysylltiedig, penderfynwyd na fyddai unrhyw aelod o’r criw yn mynd i mewn i’r dŵr.
Lluniodd y criw gynllun i gocso’r ddafad i’r sled gan ddefnyddio bwyd defaid arno. Ar y cynnig cyntaf, ni ddaeth y sled yn ddigon agos at y dafad, felly ailaddasodd aelodau’r criw yr offer a llwyddo i wrthio’r sled yn nes at y dafad ac yn y diwedd aeth ar y sled. Yna, tynnwyd y sled yn ôl yn ofalus at y criw.
Defnyddiodd y criw sled pwmpiadwy, llinellau, gwiail simnai a pholyn telegsopig, sydd i gyd yn tynnu sylw at eu sgiliau meddwl cyflym a byrfyfyrio, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu ardderchog i achub y ddafad yn ddiogel.