03.07.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Sheldon y Crwban ym Mhenfro

Yn ddiweddar achubodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Doc Penfro y crwban Sheldon, ar ôl i lamp gwresogi yn ei lloc achosi tân.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar achubodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Doc Penfro y crwban Sheldon, ar ôl i lamp gwresogi yn ei lloc achosi tân.

Ddydd Llun, Mehefin 30ain, aeth Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Doc Penfro i eiddo yng Nghilgant Sant Ann ym Mhenfro.  Ymatebodd y criw i dân wedi’i gyfyngu i lamp gwresogi yn lloc y crwban, achubodd y Diffoddwyr Tân Sheldon o’i lloc yn gyflym a diffodd y tân gan ddefnyddio dau set o offer anadlu, un chwistrell olwyn piben ac un ffan awyru pwysedd positif.

Roedd perchennog Sheldon yn ddiolchgar iawn i'r criw am eu gwaith cyflym wrth achub Sheldon a diffodd y tân. Yn dilyn y digwyddiad, cynhaliodd Diffoddwyr Tân Archwiliad Diogelwch Tân Cartref yn yr eiddo.





Y criw o Orsaf Dân Doc Penfro gyda Sheldon.



Ymweliad Diogel ac Iach

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewn Cymru yn cynnig y cyfle i gael Ymweliad Diogel ac Iach am ddim yn eich cartref.

Mae ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys popeth sy’n rhan o'r Wiriad Diogelwch Tân yn y Cartref ond hefyd yn cynnwys negeseuon diogelwch eraill hefyd a all fod yn berthnasol i'r bobl sy'n byw yn yr eiddo.  Mae Ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys gosod a gwirio larymau mwg, nodi peryglon tân posibl a chyngor arbenigol ar gynlluniau dianc ac atal tân.

Diogelwch eich cartref a'ch anwyliaid ac archebwch Ymweliad Diogel ac Iach am ddim.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Erthygl Flaenorol