30.09.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Ymateb ar ôl i Dancer Llaeth Adael y Ffordd

Ddydd Llun, Medi 29ain, ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Caerfyrddin i wrthdrawiad traffig ffordd yn Ffynnon-ddrain.

Gan Steffan John



Am 10.59yb ddydd Llun, Medi 29ain, galwyd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Caerfyrddin i ddigwyddiad yn Ffynnon-ddrain.

Ymatebodd y criw i wrthdrawiad traffig ffordd yn ymwneud ag un tancer llaeth yn cludo tua 28,000 litr o laeth.  Roedd y tancer wedi gadael y ffordd ac wedi teithio i lawr arglawdd.  Roedd aelodau'r criw yn rhan o'r gwaith o atal llaeth rhag gadael y tancer a gwneud y lleoliad yn ddiogel.  Cafodd gyrrwr y cerbyd ei drin yn y fan a'r lle gan bersonél y Gwasanaeth Ambiwlans a'i gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ffordd.

Roedd angen ymateb aml-asiantaeth i'r digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans, yr Adran Priffyrdd a'r Awdurdod Lleol hefyd yn bresennol.

Gadawodd y criw am 12.43yp.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf