12.12.2024

Digwyddiad gorgasglu yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd Port Talbot

Ddydd Mercher, 27 Tachwedd 2024 gwahoddwyd y Diffoddwr Tân Melanie Beynon a Roshnara Ali, Swyddog Partneriaethau o'n tîm Diogelwch Cymunedol i siarad yn nigwyddiad Partneriaeth Gorgasglu gyda thua 60 o bartneriaid yn bresennol o wahanol broffesiynau ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion sy'n cefnogi'r rhai sydd ag ymddygiadau gorgasglu, neu hoarding

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mercher, 27 Tachwedd 2024 gwahoddwyd y Diffoddwr Tân Melanie Beynon a Roshnara Ali, Swyddog Partneriaethau o'n tîm Diogelwch Cymunedol i siarad yn nigwyddiad Partneriaeth Gorgasglu gyda thua 60 o bartneriaid yn bresennol o wahanol broffesiynau ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion sy'n cefnogi'r rhai sydd ag ymddygiadau gorgasglu, neu hoarding

Cafodd y ddau gyfle i drafod amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Effaith gorgasglu ar ddiffoddwyr tân pan maen nhw’n cael eu galw i argyfwng, cynnal ymweliadau Diogel ac Iach i helpu i gadw deiliad yn ddiogel a chyfeirio at asiantaethau partner am gymorth pellach.

Rhoddodd Sian Mccarthy – Therapydd Galwedigaethol o'r grŵp Eiriolwyr Gorgasglu a hunan-esgeuluso adborth i Melanie a Roshnara yn dilyn y digwyddiad:

"Hoffwn i ddiolch o galon am eich cyfraniad amhrisiadwy fel siaradwr gwadd yn y Gweithdy Ymddygiadau Gorgasglu. Roedd eich dealltwriaeth a'ch arbenigedd yn y maes wedi cyfoethogi ein trafodaethau yn sylweddol a rhoi dealltwriaeth ddyfnach o ymddygiadau gorgasglu i’r rhai oedd yn bresennol. Rydym yn cydnabod bod paratoi a chyflwyno yn cymryd llawer o amser ac ymdrech, ac rydym yn wirioneddol werthfawrogi eich parodrwydd i rannu eich gwybodaeth gyda ni. Mae'r adborth gan gyfranogwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol, gan amlygu sut y gwnaeth eich cyflwyniad daro tant gyda nhw a sbarduno sgyrsiau ystyrlon. Mae eich persbectif unigryw nid yn unig yn wybodus ond hefyd wedi ysbrydoli llawer o fynychwyr, gan ein hannog ni i gyd i feddwl yn feirniadol am y cymhlethdodau sy'n ymwneud ag ymddygiadau gorgasglu. Rydym yn ddiolchgar am eich ymrwymiad i'r pwnc pwysig hwn ac am ein helpu i greu amgylchedd dysgu deniadol. Rydym yn gobeithio cadw mewn cysylltiad ac archwilio cydweithrediadau posibl yn y dyfodol. Diolch unwaith eto am fod yn rhan annatod o'n gweithdy."



Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac roedd hefyd yn gyfle i gael hyfforddiant atgyfeirio pellach gan bartneriaid eraill yn y dyfodol.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf