Am 11.47am ddydd Mercher, aeth criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberystwyth i ddigwyddiad ar Stryd Prospect yn Aberystwyth.
Ymatebodd aelodau'r criw i ddamwain ffordd lle’r roedd un cerbyd preifat wedi gwrthdaro â cherbydau wedi parcio. Roedd yr un person yn y cerbyn oedd wedi’i anafu wedi’i atal yn feddygol a defnyddiodd aelodau'r criw offer bach i gael mynediad i'r cerbyd er mwyn cynorthwyo'r parafeddygon i ryddhau’r claf. Roedd Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn bresennol, ond yn y pen draw, cafodd y claf ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ar y ffordd.
Dangosodd y digwyddiad hwn waith amlasiantaeth llwyddiannus er mwyn datrys sefyllfa o argyfwng, gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans, Heddlu Dyfed-Powys a'r Ambiwlans Awyr hefyd yn bresennol.