03.01.2025

Digwyddiad: Gwrthdrawiad Ffordd ger Argae Claerwen

Am 3.54yp ddydd Iau, Ionawr 2ail, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhaeadr Gwy, Llandrindod, Llanidloes, Y Drenewydd ac Aberystwyth i ddigwyddiad ger Argae Claerwen yng Nghwm Elan, Rhaeadr Gwy.

Gan Steffan John



Am 3.54yp ddydd Iau, Ionawr 2ail, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhaeadr Gwy, Llandrindod, Llanidloes, Y Drenewydd ac Aberystwyth i ddigwyddiad ger Argae Claerwen yng Nghwm Elan, Rhaeadr Gwy.

Ymatebodd criwiau i wrthrdrawiad ffordd yn cynnwys un cerbyd modur a phedwar claf.  Roedd y cerbyd wedi troi drosodd ac wedi dod i orffwys ar ei ochr ger ymyl y gronfa ddŵr.  Cludwyd un o’r cleifion i’r Ysbyty gan Hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

Roedd y digwyddiad hwn yn arbennig o heriol oherwydd diffyg golau, tirwedd anodd, agosrwydd at ymyl y dŵr, signal radio a ffôn gwael ac amodau rhewllyd.  Roedd angen ymateb aml-asiantaeth i'r digwyddiad hwn, gyda phersonél Heddlu Dyfed-Powys, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Achub Mynydd Aberhonddu a staff Gwylwyr y Glannau hefyd yn bresennol.

Gadawodd criwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub am 8.52yh.  Cynhaliwyd ôl-drafodaeth aml-asiantaeth yng Ngorsaf Dân Rhaeadr Gwy, a roddodd gyfle i bawb adeiladu ar y perthnasoedd cadarnhaol a oedd yn hanfodol i’r achubiadau llwyddiannus a ddigwyddodd.



Diogelwch ar y Ffyrdd yn y Gaeaf

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn galw ar yr holl cymunedau i gymryd gofal ychwanegol wrth yrru'r gaeaf hwn. Mae'r gaeaf, o'r holl dymhorau, yn gofyn am y gofal a'r sylw mwyaf os ydych chi'n mynd i aros yn ddiogel ar y ffyrdd.

Bydd gwneud paratoadau syml i'ch cerbyd tra hefyd yn ystyried y tywydd a'r ffyrdd presennol, cynllunio llwybrau cyn cychwyn ac addasu eich steil gyrru i weddu i'r amodau i gyd yn helpu i leihau'r risgiau'r gaeaf hwn.

Mae mwy o wybodaeth ar ddiogelwch ar y ffyrdd yn y gaeaf ar gael yma.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf