31.01.2025

Digwyddiad: Gwrthdrawiad Ffordd ym Mhorth Einon

Ddydd Gwener, Ionawr 31ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorllewin Abertawe a Gorseinon eu galw i ddigwyddiad ym Mhorth Einon yn Abertawe.

Gan Steffan John



Am 11.57yb ddydd Gwener, Ionawr 31ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorllewin Abertawe a Gorseinon eu galw i ddigwyddiad ym Mhorth Einon yn Abertawe.

Ymatebodd y criwiau i wrthdrawiad ar y ffordd yn cynnwys un cerbyd a oedd wedi gwrthdaro â wal, gydag un claf yn gaeth yn feddygol o fewn y cerbyd.

Defnyddiodd y criwiau offer torri gwrthrawiadau ffyrdd, offer sefydlogi ac offer bac hi ryddhau’r claf, a chafodd yna ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Roedd angen ymateb aml-asiantaeth i'r digwyddiad hwn, gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a Heddlu De Cymru hefyd yn bresennol.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf