22.10.2024

Digwyddiad: Gwrthdrawiad Trenau ger Llanbrynmair

Ddydd Llun, Hydref 21, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân y Drenewydd a Machynlleth eu galw i ddigwyddiad ger Llanbrynmair ym Mhowys.

Gan Steffan John



Am 7.31yh ddydd Llun, Hydref 21, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân y Drenewydd a Machynlleth eu galw i ddigwyddiad ger Llanbrynmair ym Mhowys.

Roedd y criwiau, ynghyd â'r gwasanaethau brys eraill, yn ymateb i wrthdrawiad rhwng dau drên ar y rheilffordd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod un dyn wedi marw yn dilyn y gwrthdrawiad, yn anffodus.

Cafodd 15 o bobl eraill eu cludo i'r ysbyty wedi eu hanafu, ond ni chredir bod yr anafiadau'n peryglu eu bywydau nac yn rhai a allai newid eu bywydau. Symudwyd yr holl deithwyr eraill o'r ddau drên.

Roedd angen ymateb amlasiantaeth ar gyfer y digwyddiad hwn, gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwylwyr y Glannau EF ac asiantaethau o’r diwydiant rheilffyrdd hefyd yn bresennol.

Gadawodd criwiau GTACGC y safle am 11.11yh.

Lluniau gan Dan James Images.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf