Ddydd Mercher 25 Chwefror, cynhaliodd Gorsaf Dân Gorllewin Abertawe ddigwyddiad Paned gyda’r Criw llwyddiannus.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i'r gymuned leol ymweld â'r orsaf, cwrdd â'r criw, a mwynhau sgwrs anffurfiol dros de a choffi. Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i godi arian ar gyfer dwy elusen – Elusen y Diffoddwyr Tân ac Age UK.
Roedd nifer fawr o'r gymuned leol yn bresennol, gan gynnwys trigolion o Gartref Gofal Bloomfield, a fwynhaodd gwrdd â'r criw a chael taith o amgylch y peiriannau tân a'r cyfleusterau yn yr orsaf.
Roedd y Cynghorydd Lyndon Jones MBE o Gyngor Abertawe hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, gan alw heibio am baned ac i ddangos ei gefnogaeth.
Diolch i haelioni pawb, cododd y digwyddiad swm anhygoel o £110 ar gyfer yr elusennau dewisol.
Hoffem estyn ein diolch diffuant i bawb a ymunodd â ni ac am gyfrannu.