11.11.2024

Digwyddiad Recriwtio 'At Eich Galwad'

Ddydd Iau, Tachwedd 6, cynhaliodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddigwyddiad recriwtio ‘At Eich Galwad’ yng Ngorsaf Dân y Drenewydd.

Gan Steffan John



Ddydd Iau, Tachwedd 6, cynhaliodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ddigwyddiad recriwtio ‘At Eich Galwad’ yng Ngorsaf Dân y Drenewydd.

Roedd y digwyddiad wedi'i anelu at bobl o bob cefndir, ac yn gyfle i ymweld â'r Orsaf Dân ac edrych ar gyfleoedd gyrfa o fewn gwasanaethau brys a lluoedd arfog amrywiol. 

Roedd cynrychiolwyr o GTACGC, Heddlu Dyfed-Powys, y Llynges Frenhinol, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y Lluoedd Arfog a Gyrfa Cymru wrth law i roi cyngor, rhannu eu profiadau ac ateb unrhyw gwestiynau am yrfaoedd o fewn eu sefydliadau.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arddangosiadau o gŵn chwilio a drôn Heddlu Dyfed-Powys, gan roi enghraifft ymarferol o’r gwahanol rolau sydd ar gael o fewn y gwasanaethau brys.  Cafwyd lluniaeth am ddim hefyd gan y Tîm Ymateb Cyflym, sy'n cefnogi'r gwasanaethau brys, a phobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, ar fyr rybudd gyda bwyd a diod yn ystod digwyddiadau.

Ewch i Dudalen Cyfleoedd Gyrfa'r Gwasanaeth

Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân. Cewch fwy o wybodaeth ar y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd yma.

Clicwich yma









A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf