18.03.2025

Digwyddiad: Tân Adeilad yn Abertawe

Ddydd Sul, Mawrth 16eg, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorseinon, Pontarddulais, Treforys a Chanol Abertawe eu galw i dân adeilad ym Mhengelli yn Abertawe.

Gan Steffan John



Am 9.11yb, ddydd Sul, Mawrth 16eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorseinon, Pontarddulais, Treforys a Chanol Abertawe eu galw i ddigwyddiad ym Mhengelli yn Abertawe.

Ymatebodd y criwiau i dân yn ymwneud â dau adeilad a ddefnyddiwyd fel gweithdai, a ledodd wedyn i fodurdy mawr gerllaw.  Roedd y tân yn cynnwys llawer o ddeunyddiau fflamadwy, gan gynnwys sawl galwyn o olew cerosin.

Defnyddiodd y criwiau chwe set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben ac un brif chwistrell i ddiffodd y tân.  Yna, defnyddiwyd camerâu delweddu thermol i fonitro’r ardal am unrhyw fannau poeth a oedd yn weddill.  Credir fod y tân wedi ei gynnau’n ddamweiniol.

Gadawodd y criwiau am 10.24yb.






Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf