13.12.2024

Digwyddiad: Tân Angheuol Mewn Tŷ yn Nrefach

Ddydd Mercher, Rhagfyr 11eg, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron ac Aberystwyth i dân mewn tŷ yn Nrefach yn Llanybydder.

Gan Steffan John



Am 12.12yp ddydd Mercher, Rhagfyr 11eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron ac Aberystwyth eu galw i ddigwyddiad yn Nrefach yn Llanybydder.

Ymatebodd criwiau i dŷ deulawr, a oedd yr adeilad cyfan ar dân.  Defnyddiodd y criwiau tair chwistrell piben, un chwistrell 45mm, pwmp ysgafn a chamerâu delweddu thermol i ddiffodd y tân.  Defnyddiwyd peiriant ysgol trofwrdd hefyd fel tŵr dŵr.  Aseswyd tŷ cyfagos heb ganfod unrhyw arwydd bod y tân wedi lledaenu.

Yn anffodus, bu farw un dyn yn 83 oed yn y fan a’r lle.

Nid yw’r tân, a oedd wedi’i gynnwys i un tŷ, yn cael ei drin fel un amheus.



Ymgyrch ‘Dwi’n Nabod Rhywun’

Yn gynharach eleni, lansiwyd Ymgyrch #DwinNabodRhywun gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sy’n annog teulu a ffrindiau i gadw golwg ar eu cymdogion a’u perthnasau, yn enwedig y rheini a allai fod yn agored i niwed, yn oedrannus neu’n byw ar eu pennau eu hunain.

Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar gymunedau gwledig ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael ymweliad Diogelwch yn y Cartref. Mae'r ymweliadau hyn yn caniatáu i staff Diogelwch Cymunedol wirio ffactorau pwysig yn y cartref, megis cael larymau mwg sy’n gweithio, diogelwch trydanol, llwybrau dianc clir a mwy.

Am fwy o wybodaeth ac i drefnu ymweliad Diogelwch yn y Cartref AM DDIM, ewch yma neu ffoniwch 0800 169 1234 os gwelwch yn dda.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf