Am 11.14yh nos Fawrth, 5 Tachwedd, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberdaugleddau a Doc Penfro eu galw i ddigwyddiad yn Ferry Lane, Doc Penfro.
Ymatebodd y criwiau i un cynhwysydd llong oedd yn cynnwys sgrap cymysg a theiars a oedd eisoes yn llosgi o ddifrif pan gyraeddasant. Roedd tua 100 o deiars ar dân hefyd. Defnyddiodd y criwiau bedair set o offer anadlu, un monitor daear, un jet 45mm, dwy jet rîl pibell ac un tanc dŵr i ddiffodd y tân.
Parhaodd y criwiau i wlychu’r mannau hynny oedd yn dal i fod yn boeth, gan adael y safle am 5.07yb ddydd Mercher, 6 Tachwedd.