07.08.2025

Digwyddiad: Tân Batri E-Feic yn Abertawe

Ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Canol Abertawe a Gorllewin Abertawe i dân a achoswyd gan fatri beic trydan yn gwefru ddydd Iau, Awst 7fed.

Gan Steffan John



Am 3.10yb ddydd Iau, Awst 7fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe a Gorllewin Abertawe i ddigwyddiad ar Rhes David Williams yn Abertawe. 

Ymatebodd y criwiau i dân a achoswyd gan fatri beic trydan yn cael ei wefru.  Roedd y batri wedi ffrwydro wrth wefru ger drws cefn yr eiddo.  Roedd deiliaid yr eiddo wedi diffodd y rhan fwyaf o’r tân cyn i’r criwiau gyrraedd ac roedd Diffoddwyr Tân yn rhan o wneud y lleoliad yn ddiogel ac awyru’r eiddo.  Bu criwiau hefyd yn rhoi cymorth cyntaf i’r deiliaid.



Diogelwch Gwefru Batris

Mae’r digwyddiad hwn yn pwysleisio’r pwysigrwydd o beidio â gadael batris dyfeisiau i wefru heb neb yn gofalu amdanynt.  Mae hefyd wedi dangos effeithiolrwydd cau drysau o fewn eiddo, gan fod y drysau caeedig wedi atal y tân rhag lledu i rannau eraill o’r eiddo.

Gallwch gael gwared o’r risg i chi a’ch cartref drwy ddilyn cyngor diogelwch gwefru batris syml:

  • Gwefrwch y batris tra byddwch yn effro er mwyn ichi allu ymateb yn ddi-oed pe bai tân yn digwydd. Peidiwch â gadael batris i wefru tra byddwch yn cysgu neu pan na fyddwch gartref.
  • Pan fyddwch yn gwefru, peidiwch â gorchuddio teclynnau gwefru na batris oherwydd gallai hynny beri iddynt orboethi neu achosi tân hyd yn oed.
  • Gwnewch yn siŵr bod larymau mwg eich cartref yn gweithio. Os ydych yn gwefru neu’n storio eich e-feic neu eich e-sgwter yn y garej neu’r gegin, gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod larwm – argymhellwn larymau gwres yn hytrach na larymau mwg yn y mannau hyn.
  • Wrth wefru, dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr a chofiwch ddatgysylltu plwg eich teclyn gwefru bob amser ar ôl ichi orffen ei ddefnyddio.

Mae mwy o wybodaeth ar ddiogelwch gwefru batris e-feiciau ac e-sgwteri ar gael yma.




Gweddillion y batri yn dilyn y tân.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf