10.10.2025

Digwyddiad: Tân Bwriadol ym Mharc Melin Mynach yng Ngorseinon

Ddydd Sul, Hydref 5ed, ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Gorseinon i dân ym Mharc Melin Mynach a oedd wedi'i gynnau'n fwriadol.

Gan Steffan John



Am 8.42yh, ddydd Sul, Hydref 5ed, galwyd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Gorseinon i ddigwyddiad ym Mharc Melin Mynach yng Ngorseinon.

Ymatebodd y criw i offer parc ar dân.  Defnyddiodd aelodau’r criw un chwistrell olwyn piben i ddiffodd y tân.  Dinistriwyd yr offer gan y tân.

Credir bod y tân wedi'i gynnau'n fwriadol. Gadawodd y criw am 9.06yh.



Lleihau Tanau Bwriadol

Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol a all achosi difrod ar raddfa fawr a hyd yn oed marwolaeth.

Gall digwyddiadau o ganlyniad i losgi bwriadol roi pwysau aruthrol ar adnoddau Gwasanaethau Tân ac Achub a gwasanaethau brys eraill, yn ogystal â dargyfeirio adnoddau o argyfyngau eraill, gan o bosibl oedi amseroedd ymateb ar gyfer damweiniau gwirioneddol mewn mannau eraill.  Maent hefyd yn peri perygl gwirioneddol i ddiogelwch a bywydau Diffoddwyr Tân oherwydd eu natur anrhagweladwy.

Mae atal a mynd i’r afael â llosgi bwriadol yn flaenoriaeth o bwys i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Nid yn unig y mae hyn yn cynnwys ymateb cyflym i ddigwyddiadau ac ymchwiliadau tân, ond hefyd cydweithio’n agos gyda’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, cymunedau a sawl asiantaeth bartner arall i nodi risgiau ac addysgu’r cyhoedd.




Llun gan Gyngor Abertawe.

Erthygl Flaenorol