Am 9.02yb, ddydd Sul, Ionawr 19eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Abergwaun a Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad ym Mhorthladd Abergwaun.
Ymatebodd y criwiau yn dilyn tân ar gatamarán 19 metr o hyd. Gweithredwyd system llethu tân y llong ar y môr, a wnaeth ddiffodd y tân, a chafodd y llong ei hebrwng i’r porthladd gan Fad Achub Tyddewi'r RNLI.
Roedd y criwiau yn barod yn y porthladd i ddiffodd tân a oedd yn weddill neu rhag ofn bod y tân yn ailgynnau. Unwaith yr oedd y llong yn y porthladd, cynhaliodd y criwiau archwiliad trylwyr o’r llong gan ddefnyddio dwy set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, un chwistrell 45mm, un camera delweddu thermol ac un monitor nwy.
Rhoddwyd cyngor i griw’r llong a gadawodd criwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub am 11yb.