14.02.2025

Digwyddiad: Tân Cerbyd yn Aberystwyth

Ddydd Iau, Chwefror 13eg, ymatebodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberystwyth gerbyd ar dân yn Nhrefechan yn Aberystwyth.

Gan Steffan John



Am 8yh, ddydd Iau, Chwefror 13eg, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberystwyth ei galw i ddigwyddiad yn Nhrefechan yn Aberystwyth.

Ymatebodd y criw i dân yn effeithio ar ddau gerbyd modur preifat.  Defnyddiodd aelodau’r criw ddwy chwistrell olwyn piben ac un set o offer anadlu i ddiffodd y tân.  Ar ôl diffodd y tân, parhaodd aelodau’r criw i huddo’r ardal.  Dinistriwyd un o’r cerbydau’n llwyr gan y tân a difrodwyd yr ail gerbyd yn sylweddol.

Gadawodd y criw am 8.54yh.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf