21.01.2025

Digwyddiad: Tân Cerbyd yn Henllan

Ddydd Llun, Ionawr 20fed, ymatebodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Llandysul i dân cerbyd yn Henllan yng Ngheredigion.

Gan Steffan John




Am 10.59yb ddydd Llun, Ionawr 20fed, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Llandysul ei galw i ddigwyddiad yn Henllan yng Ngheredigion.

Ymatebodd y criw i un cerbyd modur ar dân.  Defnyddiodd aelodau’r criw un chwistrell olwyn piben i ddiffodd y tân.  Cafodd y cerbyd ei ddifrodi’n sylweddol gan y tân.

Gadawodd y criw am 11.39yb.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf