28.12.2024

Digwyddiad: Tân Cerbyd yn Llanbedr Castell Paen

Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 28ain, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Y Gelli Gandryll a Thalgarth i gerbyd ar dân yn Llanbedr Castell Paen ym Mhowys.

Gan Steffan John



Am 2.31yp ddydd Sadwrn, Rhagfyr 28ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Y Gelli Gandryll a Thalgarth eu galw i ddigwyddiad yn Llanbedr Castell Paen ym Mhowys.

Ymatebodd y criwiau i un cerbyd modur preifat oedd ar dân.  Defnyddiodd y criwiau dair chwistrell olwyn piben, un set o offer anadlu ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.  Dinistriwyd y cerbyd yn llwyr gan y tân.  Gadawodd y criwiau am 4.48yp.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf