28.01.2026

Digwyddiad: Tân Cerbyd yng Nghaersws

Nos Lun, Ionawr 27ain, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân y Drenewydd, Llandrindod a Llanfyllin i dân cerbyd ar hyd yr A489 yng Nghaersws. 

Gan Steffan John



Am 8.04yh, nos Lun, Ionawr 27ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân y Drenewydd, Llandrindod a Llanfyllin i ddigwyddiad ar hyd yr A489 yng Nghaersws. 

Ymatebodd y criwiau i wrthdrawiad traffig ffordd yn cynnwys un cerbyd nwyddau trwm. Roedd y cerbyd wedi gwrthdaro â choeden, wedi troi drosodd ac yna wedi mynd ar dân. Defnyddiwyd pedwar set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben a chamerâu delweddu thermol i ddiffodd y tân.  Cludwyd un claf i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Roedd angen ymateb aml-asiantaeth ar gyfer y digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys a'r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd yn bresennol.

Gadawodd y criwiau am 10.27pm.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol