10.10.2025

Digwyddiad: Tân Dadleithydd yng Nghastell-nedd

Ddydd Iau, Hydref 9fed, ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Castell-nedd, Treforys a Phort Talbot i dân mewn eiddo ar Stryd Allister yng Nghastell-nedd.

Gan Steffan John



Am 9.22yb, ddydd Iau, Hydref 9fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Castell-nedd, Treforys a Phort Talbot i ddigwyddiad ar Stryd Allister yng Nghastell-nedd.

Ymatebodd y criwiau i dân yn seler eiddo domestig pedwar llawr, canol teras.  Defnyddiodd y criwiau ddau set o offer anadlu ac un chwistrell olwyn piben i ddiffodd y tân.  Defnyddiwyd camerâu delweddu thermol ac un ffan awyru pwysedd positif i fonitro’r ardal ac awyru’r eiddo ar ôl i’r tân gael ei ddiffodd.

Achoswyd y tân yn ddamweiniol gan ddadleithydd a oedd wedi gorboethi. Roedd y dadleithydd yn rhy fach ar gyfer yr ystafell y gosodwyd ynddi ac fe'i gorweithiwyd.

Gadawodd y criwiau am 10.23am.



Diogelwch Tân Trydanol

Gyda misoedd oerach y gaeaf yn agosáu, bydd llawer o bobl yn defnyddio dadleithyddion i osgoi lleithder o amgylch y cartref ac i helpu i sychu dillad.

Fel unrhyw offer trydanol, gall dadleithyddion a rheolwyr lleithder beri risg tân os nad ydynt yn cael eu defnyddio’n gywir.  Mae’r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at beryglon defnyddio dadleithydd sy’n rhy fach ar gyfer maint yr ystafell mae ynddi.

Mae’r digwyddiad hwn hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cadw drysau ar gau o fewn eiddo.  Caewyd drws y seler felly cyfyngwyd y tân i’r ystafell lle dechreuodd y tân ac atal difrod mwg sylweddol i weddill yr eiddo.

Mae mwy o wybodaeth ar ddiogelwch tân trydanol ar gael yma.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf