25.03.2026

Digwyddiad: Tân Eiddo yn Heol Fair yng Nghydweli

Ddydd Mawrth, 24 Mawrth, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Cydweli, Pont-iets, Llanelli, Caerfyrddin a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad ar Heol Fair yng Nghydweli.

Gan Steffan John



Am 4.06yb ddydd Mawrth, 24 Mawrth, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Cydweli, Pont-iets, Llanelli, Caerfyrddin a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad ar Heol Fair yng Nghydweli.

Ymatebodd criwiau i dân mewn eiddo domestig, canol teras.  Roedd y tân wedi'i leoli ar drydydd llawr yr eiddo.

Defnyddiodd criwiau wyth set offer anadlu, dwy jet olwyn pibell, dwy bibell 45mm, pedwar camera delweddu thermol ac offer bach i ddiffodd y tân.  Cefnogwyd y criwiau gan bresenoldeb peiriannau tanc dŵr symudol o Orsafoedd Tân y Tymbl a Phort Talbot, yn ogystal â pheiriant ag ysgol drofwrdd awyr o Orsaf Dân Treforys.

Cafodd rhai eiddo cyfagos eu gwacáu a chynghorwyd preswylwyr eraill i aros dan do tra bod y digwyddiad yn parhau.  Ar ôl i'r tân gael ei ddiffodd, ymwelodd Diffoddwyr Tân ag eiddo cyfagos i roi gwybodaeth a chyngor diogelwch tân.

Gadawodd y criwiau’r safle am 1.45yp.






Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf