Am 10.59yb ddydd Mawrth, 21 Hydref, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Tregaron, Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan eu galw i ddigwyddiad yn Ysbyty Ystwyth.
Ymatebodd criwiau i dân yn ymwneud ag un eiddo un llawr, oedd yn mesur tua 10 metr wrth 8 metr, a oedd ar dân ers tro pan gyrhaeddon nhw. Defnyddiodd criwiau un jet rîl pibell ddŵr, dwy jet 45mm, dwy set offer anadlu, un pwmp symudol ysgafn i ddiffodd y tân. Sefydlwyd system cyfnewid dŵr o lyn cyfagos a defnyddiwyd camerâu delweddu thermol i fonitro'r eiddo ar ôl i'r tân gael ei ddiffodd. Cafodd yr eiddo ei ddifrodi'n sylweddol gan y tân.
Cafodd un unigolyn a anafwyd ei drin gan Barafeddygon y Gwasanaeth Ambiwlans yn y fan a'r lle a chafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.
Roedd y digwyddiad hwn yn arbennig o anodd i griwiau oherwydd mynediad cyfyngedig, gyda'r lôn un trac yn arwain at yr eiddo yn anhygyrch i injan dân.
Gadawodd criwiau'r lleoliad am 3.11yp.