18.08.2025

Digwyddiad: Tân Eithin ym Mae'r Tri Chlogwyn

Ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Llanelli, Gorseinon a Gorllewin Abertawe i dân eithin ym Mae'r Tri Chlogwyn.

Gan Steffan John



Am 4.20yp ddydd Sul, Awst 17eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, Gorseinon a Gorllewin Abertawe eu galw i ddigwyddiad ym Mae’r Tri Chlogwyn.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar oddeutu dau hectar o eithin a choetir trwchus ar lethrau serth.  Defnyddiodd y criwiau un chwistrell olwyn piben estynedig a churwyr i ddiffodd y tân.

Gadawodd y criwiau am 7.21yh.




Llun gan Shane Elderfield-Scott.

Erthygl Nesaf