29.04.2025

Digwyddiad: Tân Glaswellt yng Nglyncorrwg

Ddydd Llun, Ebrill 28ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Cymer a Chastell-nedd eu galw i ddigwyddiad yng Nglyncorrwg yng Nghymer.

Gan Steffan John



Am 11.06yb, ddydd Llun, Ebrill 28ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Cymer a Chastell-nedd eu galw i ddigwyddiad yng Nglyncorrwg yng Nghymer.

Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ymatebodd y criwiau i dân glaswellt a oedd yn effeithio ar tua chwe hectar o laswelltir.  Defnyddiodd y criwiau curwyr a chwythwyr i ddiffodd y tân.  Gadawodd y criwiau am 1.02yb ddydd Mawrth, Ebrill 29ain.



Lleihau Tanau Bwriadol

Credir i’r tân hwn gael ei gynnau’n fwriadol.

Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd ddifrifol sy’n gallu achosi difrod enfawr a hyd yn oed arwain at golli bywydau. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal nifer o raglenni i atal cynnau tân a lleihau achosion o danau bwriadol er mwyn gwarchod y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

I wybod mwy ac i wneud cais am un o’n rhaglenni ewch yma.

 


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf