20.02.2025

Digwyddiad: Tân Gwair yng Ngŵyr

Ddydd Iau, Chwefror 18fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorseinon, Reynoldston, Canol Abertawe a Gorllewin Abertawe eu galw i ddigwyddiad yng Nghefn Bryn yng Ngŵyr.

Gan Steffan John



Am 5.15yb, ddydd Iau, Chwefror 18fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorseinon, Reynoldston, Canol Abertawe a Gorllewin Abertawe eu galw i ddigwyddiad yng Nghefn Bryn yng Ngŵyr.

Ymatebodd y criwiau i dân gwair a oedd yn gorchuddio tua 100 hectar o dir.  Rhannwyd y digwyddiad yn ddau sector a defnyddiodd y criwiau gurwyr a chwythwyr cefn i ddiffodd y tân.

Gadawodd y criwiau am 9yb.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf