Am 3:50pm ddydd Gwener, 7 Mehefin, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân y Drenewydd a Llanidloes eu galw i ddigwyddiad ar hyd Ffordd Osgoi'r Drenewydd.
Ymatebodd y criwiau i LGV oedd yn cynnwys gwastraff ailgylchu cyffredinol a oedd yn mudlosgi mewn ardaloedd ac â darlleniadau tymheredd uchel. Llwyddodd y criwiau i gael mynediad i drelar y cerbyd i ddiffodd y tân ac aethant ymlaen i dynnu tua 13 tunnell o ddeunydd ailgylchu cymysg allan i’w droi drosodd a’i wlychu. Cafodd y ffordd ei chau oherwydd bod cynnwys y cerbyd wedi’i daenu ar y ffordd osgoi.
Defnyddiodd y criwiau dair jet rîl pibell, un camera delweddu thermol a darnau bach o offer i dynnu’r gwastraff allan a diffodd y tân.
Roedd angen ymateb amlasiantaeth i'r digwyddiad hwn gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Dyfed-Powys a'r Awdurdod Lleol yn bresennol. Gadawodd criwiau GTACGC y lleoliad am 12:27am ddydd Sadwrn, 8 Mehefin.
Credir bod y tân hwn wedi'i achosi gan fêps untro na chawsant eu gwaredu'n gywir. Daethpwyd o hyd i sawl fêp untro yng nghynnwys y lori, ac ymddengys eu bod wedi cael eu malu a’u difrodi, a fyddai wedi achosi iddynt wreichioni a chynnau gweddill y sbwriel o fewn y lori.
Ailgylchu Batris yn Ddiogel
Mae ymchwil gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) a Recycle Your Electricals wedi canfod bod nifer y tanau batris mewn lorïau bin ac mewn safleoedd gwastraff yn y DU wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, gyda chynnydd o 71% o 700 yn 2022 i dros 1,200 yn y flwyddyn diwethaf.
Gyda chynnydd yn nifer yr eitemau trydanol cludadwy sy'n cynnwys batris ïonau lithiwm, daw risg tân sylweddol os cânt eu taflu i finiau sbwriel yn hytrach na'u hailgylchu.
Mae batris ïonau lithiwm wedi'u cuddio y tu mewn i lawer o nwyddau trydanol pob dydd y cartref, o liniaduron, ffonau symudol a dyfeisiau tabled i frwsys dannedd trydan, fêps a phodiau clust. Gall y batris hyn gael eu malu neu eu difrodi mewn lorïau bin neu safleoedd gwastraff os na chânt eu hailgylchu, a gallant arwain at dân.
Nid yn unig y mae tanau batris yn peryglu bywydau, ond gallant hefyd achosi risgiau difrifol i’r amgylchedd ac i iechyd.
Am fwy o wybodaeth am sut i ailgylchu batris yn gywir, ewch i wefan Recycle Your Electricals. I ddod o hyd i'ch cyfleuster ailgylchu agosaf, ewch i wefan Cymru yn Ailgylchu.