15.08.2025

Digwyddiad: Tân Gwyllt yn Llan-gors

Ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Talgarth, Aberhonddu, Llanidloes, Crucywel, Y Gelli Gandryll, Llandrindod a Rhaeadr Gwy i dân gwyllt yn Llan-gors ddydd Mercher, Awst 13eg.

Gan Steffan John



Am 11.37yb ddydd Mercher, Awst 13eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Talgarth, Aberhonddu, Llanidloes, Crucywel, Y Gelli Gandryll, Llandrindod a Rhaeadr Gwy eu galw i ddigwyddiad yn Llangors.

Ymatebodd y criwiau i dân gwyllt yn effeithio ar oddeutu 50 hectar o eithin a rhedyn.  Cafodd y digwyddiad ei rannu'n sectorau a defnyddiodd criwiau chwythwyr tân gwyllt, sachau cefn, curwyr a cherbyd pob tir i ddiffodd y tân.  Defnyddiwyd dronau hefyd i fonitro'r digwyddiad.

Roedd y digwyddiad hwn yn arbennig o heriol i griwiau oherwydd tirwedd yr ardal.

Gadawodd y criwiau olaf am 11.47yb ddydd Iau, Awst 14eg.






Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru

Mae tanau gwyllt yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt bob blwyddyn. Bydd partneriaid y Bwrdd Tanau Gwyllt yn ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy gwydn, a hynny trwy wella bioamrywiaeth ar gyfer ein dyfodol.

Erthygl Flaenorol