19.05.2025

Digwyddiad: Tân mewn Adeilad Adfeiliedig ar Lon Las yn Sgiwen

Ddydd Sadwrn, Mai 17eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Treforys, Castell-nedd a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad ar Lon Las yn Sgiwen.

Gan Steffan John



Am 4.37yp, ddydd Sadwrn, Mai 17eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Treforys, Castell-nedd a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad ar Lon Las yn Sgiwen.

Ymatebodd y criwiau i dân mewn adeilad adfeiliedig unllawr yn mesur tua 50 metr wrth 15 metr, a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel clwb ieuenctic a lles.  Defnyddiodd y criwiau chwistrelli olwyn piben, prif chwistrelli, offer anadlu, camerâu delweddu thermol, anadlyddion, offer bach, ffannau awyru pwysedd positif, hydrantau dŵr a pheiriant ysgol trofwrdd i ddiffodd y tân.

Credir bod y tân hwn wedi'i gynnau'n fwriadol.

Gadawodd y criwiau am 8.43pm.



Lleihau Tanau Bwriadol

Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol a all achosi difrod ar raddfa fawr a hyd yn oed marwolaeth.

Gall digwyddiadau o ganlyniad i losgi bwriadol roi pwysau aruthrol ar adnoddau Gwasanaethau Tân ac Achub a gwasanaethau brys eraill, yn ogystal â dargyfeirio adnoddau o argyfyngau eraill, gan o bosibl oedi amseroedd ymateb ar gyfer damweiniau gwirioneddol mewn mannau eraill.  Maent hefyd yn peri perygl gwirioneddol i ddiogelwch a bywydau Diffoddwyr Tân oherwydd eu natur anrhagweladwy.

Mae atal a mynd i’r afael â llosgi bwriadol yn flaenoriaeth o bwys i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Nid yn unig y mae hyn yn cynnwys ymateb cyflym i ddigwyddiadau ac ymchwiliadau tân, ond hefyd cydweithio’n agos gyda’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, cymunedau a sawl asiantaeth bartner arall i nodi risgiau ac addysgu’r cyhoedd.





Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf