Am 8.34yh ddydd Mawrth, Ionawr 21ain, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberdaugleddau ei galw i ddigwyddiad ym Marine Gardens yn Aberdaugleddau.
Ymatebodd aelodau’r criw i eiddo adfeiliedig, yn mesur tua 10 metr wrth 7 metr, gydag ychydig o fwg yn dod o simnai’r eiddo. Cafwyd mynediad i’r eiddo gan ddefnyddio offer bach ac roedd y tân wedi’i leoli mewn ystafell wely ar lawr cyntaf yr eiddo. Defnyddiodd y criw un chwistrellwr cefn a chamera delweddu thermol i ddiffodd y tân. Credir i’r tân gael ei gynnau’n fwriadol.
Gadawodd y criw am 9.48yh.
Llun gan The Herald Wales.