Am 7.40yb ddydd Mercher, 17 Gorffennaf, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llandysul, Castellnewydd Emlyn, Llanbedr Pont Steffan, Ceinewydd, Port Talbot, Aberystwyth a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad ar y Teras Marmor yn Llandysul.
Ymatebodd y criwiau i dân a oedd eisoes wedi cydio mewn adeilad segur deulawr yn mesur tua 30m x 15m, a arferai gael ei ddefnyddio fel ysgol gynradd. Defnyddiodd y criwiau bedair pibell jet, un brif jet, un peiriant ag ysgol drofwrdd, un tanc dŵr a mân offer i ddiffodd y tân.
Mae'r tân wedi achosi difrod sylweddol i’r adeilad, a’r to wedi dymchwel. Gadawodd criwiau olaf GTACGC y safle am 1.40pm.