16.12.2024

Digwyddiad: Tân Mewn Eiddo Gwag yn Sgiwen

Ddydd Sul, Rhagfyr 15fed, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Castell-nedd, Treforys a Phort Talbot eu galw i dân mewn eiddo gwag yn Sgiwen yng Nghastell-nedd.

Gan Steffan John



Am 4.04yp ddydd Sul, Rhagfyr 15fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Castell-nedd, Treforys a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad yn Sgiwen yng Nghastell-nedd.

Ymatebodd criwiau i un eiddo deulawr, ar wahân ac yn wag a oedd ar dân wrth iddynt gyrraedd.  Defnyddiodd criwiau ddau brif chwistrell, un chwistrell piben a dwy set offer anadlu i ddiffodd y tân.  Defnyddiodd criwiau hefyd peiriant ysgol trofwrdd i ddiffodd y tân o’r awyr.

Cafodd yr eiddo ei ddifrodi’n ddifrifol gan y tân.  Gadawodd y criwiau'r safle am 8.51yh.



Lleihau Tanau Bwriadol

Cafodd y tân hwn ei gynnau’n fwriadol.

Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd ddifrifol sy’n gallu achosi difrod enfawr a hyd yn oed arwain at golli bywydau. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal nifer o raglenni i atal cynnau tân a lleihau achosion o danau bwriadol er mwyn gwarchod y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

I wybod mwy ac i wneud cais am un o’n rhaglenni ewch yma.





Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf