07.11.2024

Digwyddiad: Tân mewn Eiddo Masnachol yn Hwlffordd

Ddydd Mercher, 6 Tachwedd, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Hwlffordd ac Aberdaugleddau eu galw i ddigwyddiad yn y Bristol Trader ar Stryd y Cei yn Hwlffordd.

Gan Steffan John



Am 11:38yb, ddydd Mercher, 6 Tachwedd, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Hwlffordd ac Aberdaugleddau eu galw i ddigwyddiad yn y Bristol Trader ar Stryd y Cei yn Hwlffordd.

Ymatebodd y criwiau i dân masnachol mewn adeilad deulawr tua 50 metr wrth 30 metr.  Roedd y tân ar y llawr cyntaf ac fe ledaenodd i'r ail lawr a’r ardal dan y to. Defnyddiodd y criwiau wyth set o offer anadlu, pedair jet rîl pibell, un prif jet 45mm, offer bach a pheiriant ag ysgol drofwrdd.

Gadawodd y criwiau y safle am 13:58yp.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf