26.11.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Eiddo yn Cross Hands

Ddydd Mawrth, Tachwedd 25ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman a Llanelli i ddigwyddiad ar Ffordd y Morfa yn Cross Hands.

Gan Steffan John



Am 12.40yp, ddydd Mawrth, Tachwedd 25ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman a Llanelli i ddigwyddiad ar Ffordd y Morfa yn Cross Hands.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un eiddo domestig deulawr ar wahân.  Cyfyngwyd y tân i ystafell aml-bwrpas ar lawr gwaelod yr eiddo.  Defnyddiodd y criwiau bedwar set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, dau gamera delweddu thermol, chwistrelli gorchuddio ac offer bach i ddiffodd y tân.

Achoswyd y tân gan nam trydanol mewn peiriant sychu dillad yn yr ystafell.  Ar ôl diffodd y tân, rhoddodd Diffoddwyr Tân gyngor a gwybodaeth diogelwch rhag tân yn y cartref i berchennog y tŷ ac i eiddo cyfagos.  Gadawodd y criwiau am 2.13yp.





Diogelwch Nwyddau Gwynion 

Yn dilyn y tân hwn, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch sychwyr dillad a nwyddion gwynion:

  • Peidiwch BYTH â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio - peidiwch â throi'r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
  • Peidiwch â gorlwytho'ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwyddau gwynion ar gael ar yma.



Ymweliad Diogel ac Iach

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewn Cymru yn cynnig y cyfle i gael Ymweliad Diogel ac Iach am ddim yn eich cartref.

Mae ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys popeth sy’n rhan o'r Wiriad Diogelwch Tân yn y Cartref ond hefyd yn cynnwys negeseuon diogelwch eraill hefyd a all fod yn berthnasol i'r bobl sy'n byw yn yr eiddo.  Mae Ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys gosod a gwirio larymau mwg, nodi peryglon tân posibl a chyngor arbenigol ar gynlluniau dianc ac atal tân.

Diogelwch eich cartref a'ch anwyliaid ac archebwch Ymweliad Diogel ac Iach am ddim.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Erthygl Flaenorol