Ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberdaugleddau a Hwlffordd i dân mewn eiddo, a achoswyd gan ddeunyddiau ysmygu a daflwyd, yng Nghilgant Fleming yn Hwlffordd ddydd Mercher, Gorffennaf 9fed.
Am 5.11yp ddydd Mercher, Gorffennaf 9fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberdaugleddau a Hwlffordd i ddigwyddiad yng Nghilgant Fleming yn Hwlffordd.
Ymatebodd criwiau i dân o fewn bloc tri llawr o fflatiau, yn mesur tua 20 metr wrth 8 metr. Cyfyngwyd y tân i ardal gymunedol yr eiddo ar y llawr cyntaf.
Roedd pob un o'r preswylwyr wedi gadael yr eiddo cyn i'r criwiau gyrraedd. Defnyddiodd y criwiau un chwistrell olwyn piben, un gwyntyll awyru pwysedd positif, un ysgol driphlyg ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.
Ar ôl diffodd y tân, rhoddodd Diffoddwyr Tân gyngor a gwybodaeth diogelwch tân i ddeiliaid yr eiddo yn ogystal ag i eiddo cyfagos. Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 6.39pm.