Am 8.02yb ddydd Sadwrn, 31 Awst, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o orsafoedd tân Rhydaman, Dyffryn Aman, Y Tymbl, Pontardawe a Threforys eu galw i ddigwyddiad ar Stryd y Coleg yn Rhydaman.
Ymatebodd y criwiau i dân mewn eiddo preswyl uwchben eiddo masnachol. Roedd llawr cyntaf a tho'r adeilad ar dân pan gyrhaeddodd y criwiau, gyda'r fflamau’n lledu i adeiladau cyfagos. Defnyddiodd y criwiau 11 set o gyfarpar anadlu, dwy jet olwyn pibell, dau gamera delweddu thermol, un ysgol 13.5 metr, ysgol saith metr, un peiriant trofwrdd a ddefnyddiwyd fel tŵr dŵr ac un jet diogelwch i ddiffodd y tân.
Gadawodd criwiau'r safle am 11.38yb, gyda rhai criwiau'n dychwelyd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i fonitro a gwlychu mannau oedd yn dal i fod yn broblemus.
Roedd angen ymateb amlasiantaeth i'r digwyddiad hwn gyda Heddlu Dyfed-Powys a'r Awdurdod Lleol yn bresennol.