23.10.2024

Digwyddiad: Tân mewn Eiddo yng Nghwmbwrla

Ddydd Sadwrn, Hydref 19eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe a Gorllewin Abertawe eu galw i ddigwyddiad yng Nghwmbwrla, Abertawe.

Gan Steffan John



Am 8.52yb ddydd Sadwrn, Hydref 19eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe a Gorllewin Abertawe eu galw i ddigwyddiad yng Nghwmbwrla, Abertawe.

Ymatebodd y criwiau i dân o fewn eiddo ar wahân yn mesur tua 10metr wrth 15metr.  Defnyddiwyd llawr gwaelod yr eiddo fel becws gyda fflat domestig preifat uwchben ar y llawr cyntaf.  Roedd y tân wedi’i leoli yn y fflat a defnyddiodd criwiau ddwy set o offer anadlu, un chwistrell olwyn piben, un brif bibell, ysgolion estyniad triphlyg a chamerâu delweddu thermol i ddiffodd y tân.

Gadawodd y criwiau'r safle am 10.24yb.





A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf