05.08.2024

Digwyddiad: Tân mewn Eiddo yng Nghydweli

Ddydd Gwener, 2 Awst, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Cydweli, Pont-iets, Llanelli, Caerfyrddin a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad ar Heol Horeb yng Nghydweli.

Gan Steffan John



Am 3.10yp ddydd Gwener, 2 Awst, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Cydweli, Pont-iets, Llanelli, Caerfyrddin a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad ar Heol Horeb yng Nghydweli.

Ymatebodd y criwiau i dân mewn eiddo domestig un llawr ar wahân, yn mesur tua 20m x 8m, lle roedd y tân wedi hen gydio erbyn i’r criwiau gyrraedd.  Defnyddiodd y criwiau ddwy brif jet, dwy bibell jet ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân a gwlychu’r mannau poeth.  Gadawyd rhannau o'r eiddo i fudlosgi oherwydd na ellid cyrraedd rhai o’r mannau poeth.

Ailarchwiliwyd yr eiddo yn gynnar ddydd Sadwrn, 3 Awst, a darganfuwyd mannau poeth oedd wedi cydio’n ddwfn. Defnyddiodd y criwiau un bibell jet ac un camera delweddu thermol i’w gwlychu.  Roedd disgwyl i'r eiddo fudlosgi a mygu am beth amser.  Cafodd yr eiddo ei ddifrodi'n llwyr yn sgil y tân.

Roedd angen ymateb amlasiantaeth i’r digwyddiad hwn, gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans a’r Grid Cenedlaethol hefyd yn bresennol.

Cafodd pawb eu darganfod.  Cafodd un person ei drin gan barafeddygon ar y safle a'i gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ffordd.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf