14.02.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Fan ym Mhenlan

Ddydd Iau, Chwefror 13eg, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe a Threforys i ddigwyddiad ym Mhenlan yn Abertawe.

Gan Steffan John



Am 10.09yh, ddydd Iau, Chwefror 13eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe a Threforys eu galw i ddigwyddiad ym Mhenlan yn Abertawe.

Ymatebodd y criwiau i un fan ar dân, gyda’r tân yn ymledu i adeilad allanol cyfagos.  Defnyddiodd y criwiau ddwy chwistrell olwyn piben, un set o offer anadlu ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.  Roedd y tân hefyd wedi ymledu i fondo eiddo ond ni achosodd unrhyw ddifrod mewnol.  Dinistriwyd y fan a’r adeilad allanol yn llwyr gan y tân.

Ar ôl i’r tân gael ei ddiffodd, ymwelodd y Diffoddwyr Tân ag eiddo cyfagos i rannu gwybodaeth a chyngor diogelwch tân.

Gadawodd y criwiau am 10.52yh.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf