Am 11.43yp ddydd Gwener, Mai 30ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Doc Penfro, Aberdaugleddau a Dinbych-y-pysgod eu galw i ddigwyddiad yng Nghil-maen ym Mhenfro.
Ymatebodd y criwiau i dân o fewn ffermdy segur deulawr, yn mesur tua 10 metr wrth 10 metr. Defnyddiodd y criwiau bedwar chwistrell olwyn piben, dwy brif chwistrell, tri chamera delweddu thermol, un ysgol driphlyg, offer bach a golau i ddiffodd y tân.
Gadawodd y criwiau am 3.20yb, ddydd Sadwrn, Mai 31ain.
Am 7.43yb ddydd Sadwrn, Mai 31ain, cafodd criwiau Doc Penfro ac Aberdaugleddau eu galw i’r lleoliad eto.
Roedd y tân yn yr eiddo wedi ailgynnau ac fe wnaeth criwiau leddfu’r holl eiddo. Sefydlodd y criwiau system gwennol dŵr a defnyddio un chwistrell olwyn piben a dau set o offer anadlu i ddiffodd y tân. Parhawyd i fonitro ac ymchwilio’r eiddo gan ddefnyddio camerâu delweddu thermol, gyda’r criw olaf yn gadael y lleoliad am 12.35yp.
Credir i’r tân gael ei achosi’n ddamweiniol.