Am 7.32yb, ddydd Iau, Mai 1af, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Cei Newydd ac Aberaeron eu galw i ddigwyddiad yn Llangrannog.
Ymatebodd y criwiau i dân o fewn un garej domestig, a oedd yn mesur tua phum metr wrth bum metr. Defnyddiodd y criwiau ddwy chwistrell olwyn piben, un camera delweddu thermol, anadlyddion personol, ffannau awyru pwysedd positif ac offer bach i ddiffodd y tân.
Dinistriwyd y garej yn llwyr gan y tân. Ar ôl diffodd y tân, darparodd y Diffoddwyr Tân gyngor a gwybodaeth diogelwch tân i berchennog yr eiddo ac eiddo cyfagos.
Gadawodd y criwiau am 9.50yb.