Am 4.14yp ddydd Llun, 29 Gorffennaf, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Treforys, Port Talbot, Caerfyrddin, y Tymbl a Llanelli eu galw i ddigwyddiad ar hyd yr A48 tua'r gorllewin, rhwng cylchfannau Pont Abraham a Cross Hands.
Ymatebodd y criwiau i dân mewn lori gymalog oedd yn cario tua 44 tunnell o wair. Defnyddiodd y criwiau ddwy jet rîl pibell, un jet 45mm, un peiriant ag ysgol drofwrdd a ddefnyddiwyd fel tŵr dŵr, un triniwr telesgopig (telehandler) priffyrdd ac un tanc dŵr. Cafodd y gwair a threlar y lori eu dinistrio'n llwyr gan dân.
Gadawodd y criwiau olaf y safle am 12.39yb ddydd Mawrth, 30 Gorffennaf.
Wrth symud y cerbyd yn oriau mân dydd Mawrth, 30 Gorffennaf, darganfuwyd bod llawer o’r gwair wedi aildanio. Cafodd y criw o Orsaf Dân Pontarddulais eu galw am 2.16am, a mynd ati i ddiffodd y tân wrth i beiriannau lwytho'r bêls i lorïau. Defnyddiodd aelodau'r criw ddwy jet rîl pibell, un ysgol fer a goleuadau. Gadawodd y criw y safle am 5.30yb.




A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.
Y Newyddion Diweddaraf
-
Noson Recriwtio yng Ngorsaf Dân Aberteifi
08.07.2025
-
Digwyddiad: Tân Ysgubor yn Llandeilo
04.07.2025