27.01.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Sied Amaethyddol yn Llanusyllt

Am 1.05yp ddydd Llun, Ionawr 27ain, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Dinbych-y-pysgod ac Aberdaugleddau i dân mewn sied amaethyddol ar Heol Arberth yn Llanusyllt.

Gan Steffan John



Am 1.05yp ddydd Llun, Ionawr 27ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Dinbych-y-pysgod ac Aberdaugleddau i ddigwyddiad ar Heol Arberth yn Llanusyllt.

Ymatebodd y criwiau i un garafán ac un sied amaethyddol, yn mesur tua 15 metr wrth 15 metr ac yn cynnwys cerbydau a pheiriannau, ar dân.  Defnyddiodd y criwiau ddwy chwistrell olwyn piben, dwy brif chwistrell, un pwmp a system gwennol dŵr o ffynhonnell ddŵr agored i ddiffodd y tân.  Dinistriwyd y garafán a'r sied yn llwyr gan y tân.

Gadawodd y criwiau am 3.20pm.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf