29.05.2024

Digwyddiad: Tân Mewn Tŷ yn Aberystwyth

Am 8.53pm ddydd Sul, Mai 26 cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberystwyth, Aberaeron, Tregaron, Machynlleth, Cei Newydd, Caerfyrddin a Llanidloes eu galw i ddigwyddiad ar Rodfa'r Gogledd yn Aberystwyth.

Gan Rachel Kestin

Ymatebodd criwiau i dân o fewn tŷ teras amlfeddiannaeth (HMO), yn mesur tua 6 x 15m ac yn cynnwys pedwar llawr.  Defnyddiodd y criwiau 14 set offer anadlu, pedwar camera delweddu thermol, un llif bach ac un jet gorchudd i ddiffodd y tân.  Defnyddiwyd offer ysgol trofwrdd hefyd i wirio lledaeniad y tân.

Achoswyd difrod tân sylweddol ledled yr eiddo, ac roedd hefyd wedi lledaenu i eiddo cyfagos.  Llwyddwyd i ganfod yr holl breswylwyr.

Roedd angen ymateb amlasiantaeth ar gyfer y digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol.

Gadawodd y criwiau'r safle am 8.19am ddydd Llun, Mai 27.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf