16.07.2024

Digwyddiad: Tân mewn Ysgubor yn Eglwyswrw

Am 8.25am ddydd Iau, Gorffennaf 11, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Crymych, Aberteifi ac Aberdaugleddau eu galw i ddigwyddiad yn Eglwyswrw.

Gan Steffan John



Am 8.25am ddydd Iau, Gorffennaf 11, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Crymych, Aberteifi ac Aberdaugleddau eu galw i ddigwyddiad yn Eglwyswrw.

Ymatebodd criwiau i un cerbyd modur preifat ac un ysgubor yn mesur tua 10m x 5m a oedd ar dân ers tro.  Defnyddiodd y criwiau dair set o offer anadlu, dau jet pibell, un camera delweddu thermol, un llif ôl a blaen ac un bachyn nenfwd i ddiffodd y tân. Parhaodd y criwiau i ddiffodd mannau poeth ar ôl i'r tân gael ei ddiffodd.

Damweiniol oedd achos y tân. Gadawodd y criwiau’r safle am 11.11am.

Archwiliadau Diogelwch Tân Ffermydd am Ddim

Mae GTACGC yn cynnig Gwasanaeth Archwiliadau Diogelwch Tân Ffermydd am ddim gan ein Swyddog Cyswllt Ffermydd. Bydd ymweliad gan ein Swyddog Cyswllt Ffermydd yn cynnwys cyngor ar atal tân, cyngor ar losgi dan reolaeth, cynllunio symud da byw os bydd tân a mwy.  Ewch yma am fwy o wybodaeth.

Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Mae Crymych, Aberteifi ac Aberdaugleddau* yn Orsafoedd Tân Ar Alwad, sy’n golygu bod eu Diffoddwyr Tân yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.

*Mae gan Orsaf Dân Aberdaugleddau system criwio yn ystod y dydd ac ar alwad.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf