25.07.2024

Digwyddiad: Tân mewn Ysgubor yn Rhiwlas

Ddydd Iau, 19 Gorffennaf, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanfyllin, Llandrindod, Y Trallwng, Llanfair Caereinion a Threfaldwyn i ddigwyddiad yn Rhiwlas, Croesoswallt.

Gan Steffan John



Am 12.49pm ddydd Iau, 19 Gorffennaf, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llanfyllin, Llandrindod, Y Trallwng, Llanfair Caereinion a Threfaldwyn i ddigwyddiad yn Rhiwlas, Croesoswallt.

Ymatebodd criwiau GTACGC, ynghyd â chriwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig, i dân mewn ysgubor yn mesur tua 45m x 14m a thua 120 o fêls mawr o wair. Oherwydd presenoldeb silindrau yn yr ysgubor, dechreuodd y ffermwr a'r criwiau dynnu'r bêls gwair o’r ysgubor ac roedd y criwiau'n eu gwlychu wrth iddynt gael eu tynnu oddi yno.  Cafodd y silindrau eu lleoli a'u hoeri gan ddefnyddio jet rîl pibell. Tynnwyd y bêls i gyd o'r ysgubor a'u rhoi mewn lleoliad y tu allan i losgi’n llwyr.

Defnyddiodd y criwiau un bibell 45m, dwy brif jet, dwy jet rîl pibell, dau gamera delweddu thermol, goleuadau ac offer llaw.  Yn dilyn y gwaith o fonitro ac oeri, gadawodd criwiau olaf GTACGC am 7.46am ddydd Gwener, 19 Gorffennaf.

Achoswyd y tân yn ddamweiniol wrth i’r gwair oedd wedi'i storio hylosgi’n ddigymell.




Diogelwch Tân ar Fferm

Mae cyfran fawr o ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gartref i dapestri o gymunedau gwledig ac amaethyddol.  Yn dilyn y digwyddiad hwn, mae GTACGC yn cyhoeddi nodyn atgoffa a chyngor ar ddiogelwch tân fferm i aelodau o’r cymunedau ffermio:

  • Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls AM DDIM
    Mae GTACGC yn falch o gynnig Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls AM DDIM.  Os oes gennych bryderon ynghylch tymheredd eich bêls gwair, cysylltwch â ni i ofyn am wiriad AM DDIM o dymheredd a chynnwys lleithder eich bêls gwair, gan ddefnyddio offer arbenigol.  Yn dibynnu ar y darlleniadau a gawn, byddwn wedyn yn gweithio gyda chi i lunio cynllun i reoli'r risgiau cysylltiedig.   I archebu ymweliad am ddim, ffoniwch 0800 169 1234.
    Os yw bêls gwair yn mudlosgi neu ar dân ffoniwch 999 ar unwaith.
  • Ni ddylai bêls gwair wedi'u storio gynnwys lleithder sy'n fwy na 22%.
    Mae bêls gwair sydd â chynnwys lleithder o 22% neu uwch yn peri risg o gynyddu mewn gwres ar ôl eu pentyrru, gan arwain at orboethi a hylosgiad digymell o bosibl.
  • Dylai tymheredd y bêls gwair fod yn is na 35°C cyn eu casglu o’r cae i'w storio.
    Gall bêls gwair â thymheredd uwch na 35°C barhau i gynhyrchu eu gwres eu hunain i bwynt lle gall hylosgiad digymell ddigwydd.
  • Cyngor ar Storio Bêls Gwair
    Lle bo modd, dylid lleoli pentyrrau ar wahân, yn ddigon pell o adeiladau fferm eraill, yn enwedig adeiladau da byw. Cadwch bentyrrau i faint rhesymol, ymhell oddi wrth ei gilydd ac yn sych.  Ceisiwch osgoi storio gwrtaith, cemegau, silindrau nwy, tractorau a pheiriannau eraill mewn ysguboriau sy'n cynnwys bêls gwair.  Sicrhewch fod yr holl offer trydanol a gwifrau'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda.
    Os yw bêls gwair yn mudlosgi neu ar dân ffoniwch 999 ar unwaith.
  • Arwyddion o fêls gwair yn gorboethi
    Gall arwyddion o fêls gwair yn gorboethi gynnwys afliwio neu frownio mewn mannau, pentyrrau y gwelir eu bod yn ‘stemio’ yn gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos, presenoldeb arogl melys neu orfelys a gwellt yn troi’n ffurf tebyg i dybaco.

Am ragor o wybodaeth, ewch yma.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf