10.12.2024

Digwyddiad: Tân Mewn Ysgubor yn Y Trallwng

Ddydd Llun, Rhagfyr 9fed, ymtaebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Y Trallwng, Trefaldwyn, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Y Drenewydd a Llanidloes, gyda chymorth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Sir Amwythig, i dân mewn ysgubor yn Nhreberfedd yn Y Trallwng.

Gan Steffan John



Am 12.07yp ddydd Llun, Rhagfyr 9fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Y Trallwng, Trefaldwyn, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Y Drenewydd a Llanidloes, gyda chymorth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Sir Amwythig (GTASA), eu galw i ddigwyddiad yn Nhreberfedd yn Y Trallwng.

Ymatebodd criwiau i dân o fewn ysgubor yn mesur tua 20 metr wrth 40 metr.  Defnyddiodd y criwiau bedwar chwistrell piben, deg set offer anadlu, un pwmp dŵr a system gyfnewid ddŵr rhwng peiriannau GTACGC a GTASA i ddiffodd y tân.  Dinistriwyd yr ysgubor yn llwyr, dinistriwyd gweithdy cyfagos yn llwyr hefyd a dinistriwyd ysgubor gyfagos yn rhannol gan dân.

Ar ôl diffodd y tân, parhaodd criwiau i fonitro am fannau poeth, gan ganfod tua wyth tunnell o wair yn fudlosgi.  Gadawodd y criwiau olaf y safle am 12.20yp ddydd Mawrth, Rhagfyr 10fed.







Gwnewch Wahaniaeth a Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf