Am 10.25yh nos Fawrth, Ionawr 21ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Y Trallwng, Trefaldwyn, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Y Drenewydd a Llanandras, gyda chymorth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig, eu galw i ddigwyddiad yn Ystâd Ddiwydiannol Severn Farm yn Y Trallwng.
Ymatebodd criwiau i dân o fewn adeilad diwydiannol unllawr oedd yn cynnwys saith uned fasnachol. Defnyddiodd y criwiau dri phrif chwistrell, saith set o offer anadlu, pedwar chwistrell olwyn piben, offer bach, camerâu delweddu thermol a dau fonitor daear i ddiffodd y tân. Cafodd pedair o’r unedau masnachol eu difrodi gan y tân a chafodd tair uned eu difrodi gan fwg a gwres.
Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 11.03yb ddydd Mercher, Ionawr 22ain.
Lluniau gan y Rheolwr Grŵp Phil Morris a From Above Drone Photography.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.