11.04.2025

Digwyddiad: Tân Peiriant Sychu Dillad ym Aberdaugleddau

Am 5.52yh ddydd Mercher, 9 Ebrill, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsaf Dân Aberdaugleddau i ddigwyddiad mewn eiddo domestig yn Steynton, Aberdaugleddau.

Gan Lily Evans

Categorïau



Am 5.52yh ddydd Mercher, 9 Ebrill, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsaf Dân Aberdaugleddau i ddigwyddiad mewn eiddo domestig yn Steynton, Aberdaugleddau.

Ymatebodd y criwiau i dân sychwr dillad a achoswyd gan y defnydd o addasydd bloc. 

Yn ffodus, ar yr achlysur hwn roedd y deiliaid yn eu cartref adeg y digwyddiad. Fel arall, gallai fod wedi bod yn stori wahanol iawn.

Gadawodd y criwiau’r safle am 6.15yh.



Yn dilyn y tân hwn, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch sychwyr dillad, diogelwch trydanol a nwyddion gwynion:

  • Mae’r rhan fwyaf o gartrefi’n defnyddio cebl estyniad neu addaswyr er mwyn gallu cysylltu mwy o declynnau gyda soced yn y wal. Mae’n bwysig bod ffiws yn y dyfeisiau hyn er mwyn lleihau’r risg o orboethi ac achosi perygl o dân.
  • Er bod ceblau estyniad yn golygu y gallwch gysylltu mwy o declynnau, nid yw hyn yn golygu ei bod bob amser yn ddiogel gwneud hynny. Mae gwahanol declynnau trydan yn defnyddio gwahanol faint o bŵer. I leihau’r risg o orboethi a thân, peidiwch byth a rhoi plygiau unrhyw declynnau i mewn os ydyn nhw i gyd gyda’i gilydd yn dod i fwy na 13 amp neu 3000 watt o ynni.

 

  • Peidiwch BYTH â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio - peidiwch â throi'r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
  • Peidiwch â gorlwytho'ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.



Gwnewch Wahaniaeth a Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf